WELSH FOLK DANCE - DAWNSIO GWERIN CYMRU

          DAWNSWYR TIPYN O BOPETH

         Ymweliad - Tijl Uylenspiegel - A Visit

 

 

 

Following our visit to Flanders (north Belgium) the previous year a group of dancers and flag wavers -  Tijl Uylenspiegel - from Sint Katelijne-Waver, near Mechelen, paid us a visit in May.

 

This youthful group under the leadership of a few more seasoned campaigner came to us in Wales full of enthusiasm and vigour. Their lively performances were a joy to watch despite the warm May weather which required copious liquid to quench their thirst.

On the first day of their visit they received a civic welcome from the Mayor of Carmarthen, Cllr. Peter Hughes Griffiths who extended his fine hospitality. The visitors also conveyed greetings from the Mayor of Sint Katelijne-Waver to the Mayor and citizens of Carmarthen.

 

Tijl Uylenspiegel then gave their first performance of the tour down in Guild Hall Square, where the morning shoppers lingered to watch. They saw an excellent display of both traditional Flemish dances and flag waving. This custom dates from the time when messages were conveyed by means of flags and although it has no practical use today it is still a lively and colourful display exhibiting the skill, strength and ability of the flag wavers who today, are both male and female.
 


On Saturday morning the dancers and flag wavers were to be seen at the National Botanic Garden at Llanarthne. Again they gave numerous displays and warmly received and applauded. Quite a number of dancers from various Welsh (and Scottish) dance teams in Wales turned up to join Tijl Uylenspiegel and together with the untypical warm weather continuing it was a day to remember.

A social event was held that evening where we all enjoyed a buffet and some liquid refreshments in a relaxed and convivial atmosphere. We introduces each other to our respective twmpath (social) dances, and together with folk songs from each group being sung everyone enjoyed the evening immensely

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn dilyn ein hymweliad â Fflandrys (gogledd Gwlad Belg) yn ystod y flwyddyn flaenorol, fe fu i'r grwp o ddawnswyr a chwifwyr baneri - Tijl Uylenspeigel - o Sint Katelijne-Waver, ger Mechelen, ymweld â ni yma yng Nghymru yn ystod mis Mai.

Grwp o ieuenctid o dan arweiniad nifer o aelodau mwy prodiadol y tîm a ddaeth atom, yn llawn brwdfrydedd ac asbri, â'u perfformiadau yn adlewyrchu hynny. Ac er gwres hyfryd mis Mai fe gafwyd nifer o berfformiadau bywiog a hoenus.

Ar ddiwrnod cyntaf eu hymweliad, fe gawsant groeso dinesig yng Nghaerfyrddin, gyda'r Maer, y Cyng. Peter Hughes Griffiths yn eu croesawu i'w barlwr yn y Neuadd Ddinesig. Roeddynt hwythau hefyd yn trosglwyddo cyfarchion oddi wrth Maer Sint Katelijne-Waver.iddo yntau a thrigolion Caerfyrddin.
 
Yn dilyn, fe gafwyd perfformiad cyntaf y daith i lawr ar y Clos Mawr, gyda thyrfa luosog yn aros a'u gwylio. Cafwyd arddangosfa o nifer o ddawnsiau trafodiadol Fflandrys ynghyd ag arddangosfa o chwifio'r baneri.
Arferiad sy'n deillio o'r cyfnod pan anfonid negeseuon trwy ddefnyddio baneri yw hwn ac er nad oes iddo unrhyw werth ymarferol heddiw mae'n dal i fod yn berfformiad lliwgar a bywiog, yn dangos sgil, nerth a medrusrwydd y chwifwyr, yn fechgyn, ac erbyn hyn, nifer o'r merched hefyd.

Yna ar y Sadwrn aethpwyd am dro i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne. Cafwyd nifer o berfformiadau yma hefyd a chroeso a chymeradwyaeth wresog oddi wrth y gwylwyr. Roedd nifer o aelodau o dimau dawnsio Cymru wedi ymuno â hwy yn yr Ardd. Gyda'r tywydd yn parhau yn braf fe gafwyd diwrnod i'w gofio.
 


Fe fu i'r cymdeithasu barhau gyda'r nos ond cyfle hefyd i ymlacio a mwynhau pryd o fwyd a llymaid i'w yfed yng nghwmni'n gilydd. Cyfnewid nifer o ddawnsiau twmpath, nifer o alawon gwerin y ddwy wlad yn cael eu canu a phawb yn mwynhau'r noson yn fawr.

 

                                                           Wrthi'n trosglwyddo o'r "hen" wefan  - In the process of transferring from the 'old' Website                             

                                                                                               Nol i Dudalen y Fwydlen - Return to Menu Page