WELSH FOLK DANCE - DAWNSIO GWERIN CYMRU

DAWNSWYR TIPYN O BOPETH

     Hanes TOB History

              Gwahoddiad  i  Ddawnsio     -    An Invitation to Dance                    

      I gysylltu â ni  - to contact us:          

                        Ffynnonlwyd,

                                 TRELECH,

                                   Caerfyrddin/Carmarthen

                                SA33 6QZ

Ffôn/Phone: 0044 (0)1994 484496

e-bost/e-mail: bobtob@ic24.net

                                       

                                 TOB's History
The website is almost six years old while the group is drawing towards its 25th anniversary. The tales of the early years are yet to be recorded in any detail but you may read of the team's formation below ....

 

Tipyn O Bopeth--its origins

Dawnswyr Tipyn o Bopeth" was formed in 1988.  The original idea was conceived during an after-dinner conversation at the 'Taplas', at City Hall, Cardiff as part of "Gwyl Ifan" - probably the largest and most successful of the Welsh folk dance festivals. Like-minded festival dancers were contacted to form an 'ad hoc' team to attend future festivals. And "Dawnswyr Tipyn o Bopeth" came into being and has kept on going all these years!!.

 

During the early years, most of the events that "Tipyn" attended were the Pan-Celtic Festivals--Lowender Peran at Perranporth in Cornwall, the Manx festival "Yn Chruinnaght" at Ramsey, IOM, and the Irish Pan-Celtic Festival held this year (2009), as last year, at Baile Dhún na nGall, Co Donegal. Next year it moves to An Daingean, Co. Chiarraí.
We have supported the Irish festival since the first visit to Killarney in 1989,  having travelled with the festival to Galway, Tralee, Ennis, Kilkenny, Letterkenny & Donegal.
 

As the team became established fresh venues were explored and over the past twenty one years we have danced in Nottingham, Clitheroe, Ulverston, Hay on Wye, Lorient, Belgium, Brittany, Southern France, Transylvania, Visby - the capital city of Gotland (Sweden) - and not forgetting our friends with the Nar-Lau Danslag;

at Varhaug (near Stavanger) in Norway,  - as well as most of the dance festivals in Wales. For the past four years we have been invited to take part in the International Bohemian Dance Festival held in Prague  and Podebrady where we had the privilege of leading the procession - an honour for the group and Wales.

The main aim of  "Tipyn o Bopeth"  has been, and still is, to be fully committed  to supporting festivals.
During the summer overseas trips, we have taken part at international festivals in Transylvania, dancing in temperatures of 40ºC, driven over a thousand miles back to Mechelen in Belgium for yet another International Festival.  Arriving late on Thursday night we were told that we were to give an unscheduled display early Friday morning! Never trust official programmes!!
 

After twenty five years there are numerous tales of the team's exploits that can be recounted and the more recent history can be found in The Archive..

We also hope that "Tipyn o Bopeth " will be able to continue for a few more years of happy dancing!

 

                    Hanes Tipyn O Bopeth
Mae'r wefan erbyn hyn ymron 6 mlwydd oed tra bod y grwp ei hun yn tynnu tuag at ei benblwydd yn       25 oed. Nid yw hanes y blynyddoedd cynnar wedi ei groniclo'n fanwl ond mae hanes llunio TOB isod ....

Cychwyn Tipyn O Bopeth

Ffurfiwyd "Dawnswyr Tipyn o Bopeth" ym 1988. Fe eginodd y syniad gwreiddiol mewn sgwrs wedi cinio amheuthun yn Nhaplas Gwyl Ifan yn Neuadd Dinas Caerdydd,- un o'r gwyliau mwyaf llwyddiannus yng nghalendr dawnsio gwerin yng Nghymru.
Penderfynwyd cysylltu â nifer o ddawnswyr eraill o'r un anian er mwyn ffurfio grwp i fynychu'r wyl y flwyddyn ganlynol. Daeth nifer at ei gilydd yr adeg hynny ac mae Tipyn o Bopeth yn dal i ddawnsio!! .

Yn ystod y blynyddoedd cynnar, y gwyliau Pan-Geltaidd oedd y digwyddiadau a fynychwyd gennym yn bennaf -- Lowender Peran ym Mherranporth, Cernyw; Yn Chruinnaght yn Ramsey ar Ynys Manaw, a'r Wyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon (a gynhaliwyd y llynedd ac eleni (2009)- yn
Baile Dhún na nGall, Co. Donegal).
Rydym yn parhau i gefnogi'r wyl Wyddelig ers ein hymweliad cyntaf â Chilarni ym 1989, a symud gyda'r wyl i Galway, Trali, Ennis, Cilceni, Leitrceni a Donegal. Y flwyddyn nesaf cynhelir hi'n
An Daingean, Co. Chiarraí.

Wrth i'r tîm ymsefydlu aethpwyd ati i chwilio am wyliau eraill a thros yr un flynedd ar hugain diwethaf rydym wedi dawnsio yn Nottingham, Clitheroe, Ulverston, Y Gelli Gandryll, Lorient, Fflandrys yng Ngwlad Belg, Llydaw, De Ffrainc,Transylfania, Visby ar Ynys Gotland (Sweden) - heb anghofio ein ffrindiau gyda Grwp Dawnsio Nar-Lau;

 yn Varhaug (ger Stavanger) yn Norwy,  ….. a nifer fawr o wyliau yng Nghymru hefyd. Dros y pedair blynedd diwethaf cawsom ein gwahodd i gymryd rhan mewn Gwyl Ddawns Cydwladol ym Mohemia a gynhaliwyd ym Mhrâg a Phodebrady a cawsom y fraint o arwain yr orymdaith - anrhydedd i'r grwp ac i Gymru.

Prif amcan "TOB" ydy cefnogi i'r carn y  gwyliau a fynychir gennym. Yn ystod ymweliadau canol haf i wledydd tramor, rydym wedi arddangos mewn gwyliau gydwladol yn Nhransylfania, gan ddawnsio mewn tymheredd o 40ºCelsius; yna gyrru mil o filltiroedd yn ôl i Mechelen yng Ngwlad Belg ar gyfer gwyl gydwladol arall.  Wedi cyrraedd yn hwyr nos Iau,  cawsom wybod ein bod i gynnal arddangosfa yn gynnar fore Gwener! Ond dyna yw hanfod "Tipyn"!!

Wedi pum mlynedd ar hugain gennym nifer o straeon difyr i'w hadrodd ac m
ae hanes y blynyddoedd mwyaf diweddar i'w cael yn Yr Archif.

Rydym hefyd yn dymuno gweld "Tipyn" yn parhau am flwyddyn neu ddwy arall o ddawnsio'n llon!

 

 

Home
Pwy, neu beth, yw TOB
Who, or what, is TOB
Hanes TOB History
Archif - Archive
2012