WELSH FOLK DANCE - DAWNSIO GWERIN CYMRU

DAWNSWYR TIPYN O BOPETH

     Pwy, neu beth, yw TOB

              Gwahoddiad  i  Ddawnsio     -    An Invitation to Dance                    

      I gysylltu â ni  - to contact us:          

                        Ffynnonlwyd,

                                 TRELECH,

                                   Caerfyrddin/Carmarthen

                                SA33 6QZ

Ffôn/Phone: 0044 (0)1994 484496

e-bost/e-mail: bobtob@ic24.net

                                       

Home
Pwy, neu beth, yw TOB
Who, or what, is TOB
Hanes TOB History
Archif - Archive
2012

 

 

 

 

 

 

Grwp o ddawnswyr a cherddorion yw Dawnswyr Tipyn o Bopeth sy'n arddangos a hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymru - yma yng Nghymru a thramor. Cafodd y grwp ei enw oherwydd daw'r aelodau o wahanol rannau o Gymru ac o du draw i Glawdd Offa wedi eu huno gan eu brwdfrydedd mawr tuag at arddangos dawnsiau Cymru mewn gwyliau a digwyddiadau eraill.

Prif amcan "Tipyn o Bopeth" ydy cefnogi i'r carn y gwyliau a fynychir gennym  - os eich bwriad yw gorffwyso â'ch traed i fyny, nid yw "Tipyn o Bopeth" i chi. Rydym yno i ddawnsio a chreu cerddoriaeth ar hyd yr wyl-- gan gynnal gweithdai, ymweld ag ysbytai, cartrefi'r henoed, ysgolion, i arddangos ar y strydoedd, i alw twmpathau, cymdeithasu gyda'r bobl leol yn ogystal ag ymddangos ar lwyfannau'r cyngherddau. Os ydy'r wyl eisiau llenwi bwlch yn ei rhaglen, rydym yno i'w cynorthwyo, i ateb yr angen.

Rydym o fwriad yn chwilio am y grwpiau dawns lleol wrth fynychu gwyliau - i sicrhau ffrindiau newydd, i annog cyfnewid ymweliadau ac i brofi y dawnsiau lleol. Rydym wedi mwynhau llawer i ddawns 'set' mewn nifer o bentrefi a threfi yn Iwerddon ac mae'n 'Harglwydd Caernarfon' ni yn cael ei dawnsio yn Sweden!! Bu inni ganfod mai 'Family Waltz' neu 'Circle Waltz' yw'r ddawns 'Cader Idris' mewn nifer o fannau ar gyfandir Ewrop.

Mae "Tipyn o Bopeth" yn enwog am un peth arall - ffurfio perthynas            carwriaethol!!  Rydym wedi dwyn ynghyd nifer sy bellach yn barau priod a chredwn fod yna berthynas arall "ar y gweill"!

Wedi pum mlynedd ar hugain rydym yn dymuno gweld "TOB" yn parhau am ryw flwyddyn neu ddwy arall, gan barhau i ddawnsio yn y gwyliau - ambell un newydd ac ail-ymweld ag eraill gyda'r wisg ddu a gwyn a'r het dal yn tynnu sylw, yn cychwyn sgwrs a chyfle arall i son am Gymru a'i dawnsiau!!